Ioan - Apostol ac Efengylwr
Dydd Mawrth 27 Rhagfyr 2022
Prif Wasanaeth:
Pa un bynnag ai’r un ai peidio yw Ioan yr Apostol ac Ioan yr Efengylydd, y mae’r Eglwys heddiw yn anrhydeddu’r un sy’n cyhoeddi mai Iesu yw’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, y ‘disgybl yr oedd Iesu’n ei garu’. Un o feibion Sebedeus oedd Ioan. Gydag Iago a Phedr, fe ganlynodd Iesu. Yr oedd yn bresennol pan weddnewidiwyd Iesu ar y mynydd sanctaidd; yr oedd gyda Iesu adeg y Swper Olaf ac adeg ei ing yn yr ardd; safai gyda mam Iesu wrth droed ei groes a bu’n dyst i atgyfodiad Iesu – ‘gwelodd ac fe gredodd’. Bu Ioan yn dyst i’r Gair, cyhoeddodd y Gair a bu fyw a marw gan dystio i’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, Iesu Grist, a’i carodd ac a garai.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: