Joseff o Nasareth
Dydd Llun 20 Mawrth 2023 (Wedi symud Dydd Sul 19 Mawrth 2023)
Prif Wasanaeth:
Yn efengyl Mathew, mae Joseff yn cael ei bortreadu fel dyn da, saer wrth ei alwedigaeth, a oedd yn credu yn Nuw. Croesawodd negesydd Duw a ddywedodd wrtho beth oedd ewyllys Duw ar ei gyfer ef a Mair, ei ddyweddi. Mae efengyl Luc yn disgrifio sut i Joseff gymryd y baban newydd-anedig fel pe bai’n blentyn iddo ef ei hun. Roedd gyda Mair pan, ar y deugeinfed diwrnod wedi’r enedigaeth, y cyflwynwyd Iesu yn y Deml, yn unol â chyfraith yr Arglwydd: ‘pob gwryw cyntaf-anedig, fe’i gelwir yn sanctaidd i’r Arglwydd’. Roedd y ffaith i Joseff fabwysiadu Iesu yn golygu hefyd ei fod yn un o ddisgynyddion Dafydd, yn unol â’r broffwydoliaeth y byddai gwaredwr Israel yn dod o Dŷ a llinach Dafydd.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: