Luc, Efengylwr
Dydd Mercher 18 Hydref 2023
Prif Wasanaeth:
Yr oedd Luc yn gyfaill agos i’r apostol Paul. Cyfeiria Paul ato deirgwaith yn ei Lythyrau. Fe’i disgrifia fel ‘y meddyg annwyl’ ac, yn ei ail Lythyr at Timotheus, fel ei unig gydymaith yng ngharchar. Credir mai ef yw awdur dau o lyfrau’r Testament Newydd, sef yr efengyl sy’n dwyn ei enw a hefyd Actau’r Apostolion. Mae naws darluniadol i adroddiad Luc am fywyd Crist; dengys y dilyniant o’r geni i’r farwolaeth a’r atgyfodiad. Ni welir yn ei ysgrifeniadau y ddiwinyddiaeth ddatblygedig sydd yn ysgrifeniadau Paul ond, fel Cenedl-ddyn, gwna Luc yn glir fod newyddion da’r iachawdwriaeth i bawb, waeth beth fo’u rhyw, eu safle cymdeithasol na’u cenedl. Yn ôl traddodiad, ysgrifennodd ei efengyl yng Ngwlad Groeg a bu farw yn Boeotia yn wyth deg pedwar mlwydd oed.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: