Marc, Efengylwr
Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023
Prif Wasanaeth:
Iddew oedd Ioan Marc ac, yn ôl llythyr Paul at y Colosiaid, yr oedd yn gefnder i Barnabas. Aeth gyda Paul a Barnabas ar eu taith genhadol gyntaf. Wedi hynny aeth i Gyprus gyda Barnabas ac i Rufain, yn gyntaf gyda Paul ac wedyn gyda Pedr. Ystyrir yn gyffredin mai efengyl Marc yw’r efengyl gynharaf ac mae’n fwy na thebyg iddo ei hysgrifennu pan oedd yn Rhufain. Mae’n debyg y seiliwyd hi yn gymaint ar bregethu Pedr ag ar atgofion Marc ei hun. Y mae’n finiog ac yn uniongyrchol ac nid yw’n arbed yr apostolion wrth gofnodi eu gwendidau a’u methiant i ddeall y byddai Iesu Grist yn dioddef i waredu’r byd. Golyga rhannu yng ngogoniant yr atgyfodiad rannu hunan, gorff ac enaid, hyd at farwolaeth; yr oedd rhannu’r efengyl yn golygu i bob un haelioni hynod ac, yn y pen draw, aberth.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: