Simon a Jwdas, Apostolion
Dydd Sadwrn 28 Hydref 2023
Prif Wasanaeth:
Mae’r efengyl yn ôl Mathew, Marc a Luc yn enwi Simon a Jwdas ymhlith y deuddeg apostol. Gelwir Simon ‘y Selot’, am ei fod, mae’n debyg, yn aelod o fudiad cenedlaethol i wrthsefyll y goresgynwyr Rhufeinig. Ni ddywed yr efengylau ai gadael plaid y Selotiaid i ddilyn Crist a wnaeth, ai dod i gefnogi’r Selotiaid ar ôl yr atgyfodiad, gan ystyried bod hynny’n ateb galwad Duw i gyhoeddi’r deyrnas.
Dywed Luc mai mab Iago oedd Jwdas. Yn ôl Llythyr Jwdas, brawd Iago ydoedd. Gall y ddau beth fod yn wir. Ymddengys mai’r un dyn ydyw â Thadeus, ei ail enw, efallai. Gan fod ei enw mor debyg i’r eiddo Jwdas Iscariot, anaml y gelwid ar Jwdas mewn gweddi ac mae’n debyg na wneid hynny ond wedi i bopeth arall fethu. Daethpwyd i’w adnabod, felly, fel nawddsant achosion coll.
Cysylltir y ddau apostol â’i gilydd ar y dydd hwn am mai ar gyfer heddiw, yn y seithfed ganrif, y cysegrwyd eglwys yn Rhufain a oedd wedi derbyn eu gweddillion.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf
Gweld yr wythnos lawn: