Cyhoeddi ein Harglwydd i Fair Forwyn Fendigaid
Dydd Sadwrn 25 Mawrth 2023
Prif Wasanaeth:
Caiff stori cyhoeddi dyfodiad Duw a wnaed yn gnawd ym mherson ei Fab, Iesu Grist, yr Eneiniog Un, ei chlywed heddiw wrth gyhoeddi’r newyddion da o efengyl Luc. Mae’r ŵyl yn nodi cenhedliad Crist yng nghroth Mair ac mae’n ŵyl sydd wedi cael ei dathlu yn yr Eglwys ers diwedd y bedwaredd ganrif os nad cynt. Caiff dynoliaeth berffaith a dwyfoldeb cyflawn Iesu eu cadarnhau, yn dilyn y dadleuon ynghylch y datganiadau uniongred hynny a arweiniodd at Mair yn cael ei hadnabod fel Theotokos, cludwr Duw, a gafodd ei gyfieithu fel Mam Duw yng ngwledydd y gorllewin. Felly mae gan y dathliad gysylltiadau cryf â pherson Mair, a daeth i gael ei adnabod fel Dygwyl Fair neu Lady Day yn Lloegr. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Eglwys wedi ailenwi’r diwrnod yn Ŵyl ein Harglwydd, gan anrhydeddu’n arbennig y Forwyn Fair.
Bucheddau’r Saint allan o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam, Cymdeithas Sant Ffransis
Gweld yr wythnos lawn: