Cyflwyniad Crist (Gŵyl Fair y Canhwyllau)
Dydd Iau 2 Chwefror 2023
(Efallai y bydd Cyfl wyniad Crist, 2 Chwefror yn cael ei drosglwyddo i'r Pedwerydd Sul Yr Ystwyll. Gweler Tudalen 114-115)
Mae heddiw’n dathlu ddeugain niwrnod ers geni Iesu, pryd yr aeth Mair a Joseff ag ef i’r Deml yn Jerwsalem am fod y gyfraith Lefiaidd yn gofyn i Fair gwblhau ei ‘phuredigaeth’ ar ôl esgor ar blentyn gwryw. Hyd y diwrnod hwn, ni chaniateid iddi gyffwrdd â dim byd sanctaidd na mynd i mewn i’r cysegr. Wrth weld y teulu bendigaid, molodd Simeon Dduw a chymeradwyo’r baban fel ‘goleuni i oleuo’r cenhedloedd’ a rhoes Anna ddiolch am y baban a chyhoeddi mai ef oedd ei Gwaredwr. Arweiniodd y darlun o Grist fel y Goleuni at ddathlu’r goleuni yn trechu’r tywyllwch, ac yn aml bydd canhwyllau’n rhan ganolog o’r dathlu.
Prif Wasanaeth:
Gweld yr wythnos lawn: