Ymweliad Mair Forwyn Fendigaid ag Elisabeth
Dydd Mecher 31 Mai 2023
Prif Wasanaeth:
Mae’r eglwys heddiw yn cofio am ymweliad Elisabeth â’i chyfnither Mair, fel y’i cofnodwyd yn efengyl Luc. Cafodd yr ŵyl ei dathlu gyntaf mewn Cabidwl Cyffredinol a oedd yn perthyn i Urdd Sant Ffransis ym 1263 ond buan iawn y lledaenodd yr arfer ledled Ewrop. Gan fod y dathliad yn cael ei ddisgrifio’n fanwl yn yr efengyl, roedd eglwysi’r Diwygiad Protestannaidd yn fwy cyndyn o’i wahardd na gwyliau Marïaidd eraill, yn enwedig gan mai dyma’r achlysur i Fair ganu ei hemyn fawl ogoneddus i anrhydeddu ei Harglwydd a’i Duw. Yn yr un modd ag y mae Luc yn gweld Ioan Fedyddiwr fel yr olaf o broffwydi’r hen gyfamod, mae’n defnyddio llamu Ioan yng nghroth Elisabeth fel yr enghraifft gyntaf o Ioan yn cyhoeddi Crist fel y Meseia a oedd wedi ei addo. Felly mae’n cysylltu’r hen gyfamod â’r un newydd. Mae’n ymddangos ei fod yn dweud, yn yr un modd ag y mae’r hen gyfamod yn amlwg yn cyfeirio at Iesu, felly hefyd y mae ei broffwyd olaf, sydd eto i’w eni.
Gweld yr wythnos lawn: