Dewi
Esgob Tyddewi a Nawddsant Cymru
Gwener 1 Mawrth
CYMUN DYDDIOL
- DEWI (Word)
Mynach ac esgob yn y chweched ganrif oedd Dewi. Dywedir ei fod yn esiampl o’r bywyd asgetig, mynachaidd, ond yr oedd iddo hefyd air da am ei garedigrwydd a’i drugaredd at eraill, yn enwedig y tlodion a’r cleifion. Credir mai ef a sefydlodd fynachlog Mynwy, Tyddewi erbyn hyn, ynghyd ag o leiaf ddwsin o fynachlogydd eraill. Dywedir iddo seilio Rheol Buchedd ei fynachlogydd ar reolau buchedd mynachod anialwch yr Aifft, gan roi pwyslais mawr ar waith caled, ymwrthod ag alcohol a pheidio â siarad heb angen. Bu farw oddeutu’r flwyddyn 601 a bu’n nawddsant Cymru ers o leiaf y ddeuddegfed ganrif.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf