Mair Magdalene
Llun 22 Gorffennaf
PRIF WASANAETH
- Mair Magdalene (Word)
Rhydd y pedair efengyl le unigryw i Fair Magdalen ymhlith dilynwyr Iesu. Deuai, y mae’n debyg, o Fagdala ger Môr Galilea, a dywedir i Iesu ei hiacháu cyn iddi ei ddilyn yn ei weinidogaeth. Gyda gwragedd ffyddlon eraill, arhosodd wrth y groes adeg y croeshoelio a hi oedd y disgybl cyntaf i ddarganfod y bedd gwag ar fore’r Pasg. Iddi hi y rhoddwyd y fraint o fod y cyntaf i weld yr Arglwydd atgyfodedig ac anfonodd ef hi i ddweud y newyddion da wrth y disgyblion eraill. Ar sail y gorchymyn hwnnw y rhoddodd yr Eglwys fore iddi y teitl ‘yr Apostol i’r Apostolion’.
Bucheddau’r Saint allan o Exciting Holiness gan y Dr Jo Spreadbury, Coleg Magdalen, Rhydychen