Mihangel a’r Holl Angylion
fel y deunawfed Sul wedi'r Drindod
Dydd Sul 29 Medi
PRIF WASANAETH
- Mihangel a’r Holl Angylion (Word)
Mihangel, Gabriel a Raffael yw’r tri angel a enwir yn y Beibl fel negeswyr annwyl Duw. Disgrifir Mihangel (ystyr yr enw yw ‘Pwy sydd fel Duw?) fel amddiffynnydd Israel ac arweinydd byddinoedd Duw. Y mae’n fwyaf adnabyddus, efallai, fel lladdwr y ddraig yn Llyfr Datguddiad Ioan. Ystyrir mai ef sy’n amddiffyn Cristnogion rhag y diafol, yn enwedig ar awr angau. Yn y bumed ganrif, cysegrwyd eglwys gerllaw Rhufain yn ei enw. Ar 30 Medi y bu hynny, a bu dathlu y noson gynt. Heddiw, mae’r Eglwys ledled y gorllewin yn dathlu gŵyl Mihangel a’r Holl Angylion ar 29 Medi.
Bucheddau’r Saint allan o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam, Cymdeithas Sant Ffransis