Philip ac Iago
Apostolion
Mercher 1 Mai
CYMUN DYDDIOL
- Philip ac Iago, Apostolion (Word)
Ymddengys Philip ac Iago yn rhestr y deuddeg apostol yn y tair efengyl gyntaf ond yn aml cymysgir rhyngddynt â seintiau eraill o’r un enw. Yn efengyl Ioan rhoddir lle amlycach i Philip, y trydydd apostol i’r Iesu ei alw, sy’n dod â’i gyfaill, Nathanael, at yr Arglwydd. Philip sy’n mynegi dros yr apostolion eraill amheuaeth a ellir porthi’r pum mil ac, adeg y Swper Olaf, y mae’n cynnal math o ddeialog gydag Iesu sy’n arwain at Araith Ymadawol ein Harglwydd.
Dywedir bod Iago yn fab i Alffeus, ac fe’i hadwaenir yn aml fel ‘Iago Leiaf’ i wahaniaethu rhyngddo ag Iago, brawd Iesu. Fe all mai ef yw’r ‘Iago Fychan’ sydd, yn efengyl Marc, yn dyst i’r Croeshoelio.
Dethlir eu gwyliau ar yr un dydd am mai ar y diwrnod hwn, yn y flwyddyn 560, y cysegrwyd yr eglwys yn Rhufain lle y mae eu gweddillion.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf