Y Diniweidiaid
Iau 28 Rhagfyr
CYMUN DYDDIOL
- Y Diniweidiaid (Word)
Yr awdurdodau Rhufeinig ym Mhalestina a benododd Herod ‘Fawr’ yn Frenin yr Iddewon. Am dair blynedd ar ddeg ar hugain, bu’n trin ei ddeiliaid yn ddidostur. Yn yr efengyl yn ôl Mathew, cais berswadio’r Doethion, a groesawodd ar eu taith i chwilio am yr un ‘a anwyd yn frenin yr Iddewon’, i ddweud wrtho ef pan ddeuent o hyd iddo. Ei fwriad oedd lladd Iesu. Pan ddeallodd fod y Doethion wedi ei dwyllo a gadael y wlad, bwriodd ei lid ar holl fabanod gwryw’r deyrnas. Y rhain oedd ‘diniweidiaid’ Duw. Mae’r hanes yn cyfateb i hanes Pharo yn lladd plant yr Hebreaid yn yr Aifft.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf