Enwi Iesu
Llun 1 Ionawr 2024
CYMUN DYDDIOL
- Enwi Iesu (Word)
Y mae’r ŵyl ysgrythurol hon yn dathlu tri pheth: yn gyntaf, enwi’r baban; yn ail, arwydd y cyfamod rhwng Duw ac Abraham ‘a’i blant am byth’ – Crist, felly, yn cadw’r Gyfraith; ac, yn drydydd, y tywallt cyntaf ar waed Crist. Y peth mwyaf arwyddocaol o’r tri yn yr efengylau yw’r enw ei hun, sy’n golygu ‘y mae Iawe’n achub’ ac a gysylltir, felly, â chwestiwn Moses i Dduw: ‘Beth yw dy enw?’ Yr ateb oedd: ‘Ydwyf yr hyn ydwyf’, a dyna, felly, arwyddocâd geiriau Iesu: ‘Cyn geni Abraham yr wyf fi’. Cadwyd yr ŵyl hon yn yr eglwys ers o leiaf y chweched ganrif.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf