Genedigaeth Ioan Fedyddiwr
Llun 24 Mehefin
- Genedigaeth Ioan Fedyddiwr (Word)
Y mae’r hanes beiblaidd am Ioan, mab Elisabeth a Sachareias, yn dechrau cyn iddo hyd yn oed gael ei eni. Ystyrir y llam a roes yng nghroth ei fam yn fynegiant o fawl wrth edrych ymlaen at eni ei Waredwr ac y mae adroddiad y pedair efengyl am y newyddion da yn Iesu Grist yn dechrau gydag Ioan fel rhagredegydd. Ymddengys bod ganddo swyddogaeth ragarfaethedig debyg i un proffwydi’r Hen Destament, yn enwedig i annog pobl Dduw i fyw bywyd a oedd yn deilwng o’u galwad gan ddisgwyl bod yr Eneiniog ar ddyfod. Yn nhraddodiad y Tadau cynnar, ystyrir i Ioan dderbyn gras cyn ei eni. O ganlyniad, y mae’r Eglwys bob amser wedi dathlu’r ŵyl hon gyda mwy o ddifrifoldeb nag wrth gofio dydd ei farw.
Hanes y Seintiau o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam CSFf