Gweddnewidiad Ein Harglwydd
Mawrth 6 Awst
PRIF WASANAETH
- Gweddnewidiad Ein Harglwydd (Word)
Adroddir stori Gweddnewidiad Iesu ar y mynydd yn yr efengyl yn ôl Mathew, Marc a Luc, a chyfeiria Pedr ato yn ei Ail Epistol. Eglurir bob tro fod iachawdwriaeth Duw i bawb ac mai trwy Grist y daw’r iachawdwriaeth honno. Rhydd presenoldeb Moses ac Elias dystiolaeth y gyfraith a’r proffwydi i Iesu ac y mae’r digwyddiad yn rhag-gysgod o’r atgyfodiad ac yn rhagflas o fywyd y gogoniant.
Bucheddau’r Saint allan o Exciting Holiness gan y Brawd Tristam, Cymdeithas Sant Ffransis