Yr Eglwys yng Nghymru

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn credu ac yn datgan Newyddion Da Iesu Grist. Mae hyn yn Newyddion Da, oherwydd ei fod yn ein annog bob un i sylweddoli fod Duw yn ein caru ni, ei fod ymdrechu i gwrdd â ni ym mherson ei Fab, a thrwyddo ef yn ein derbyn fel ag yr ydym. Mae’n gofyn i ni ddefnyddio ei nerth i fyw bywyd hyd yr eithaf, ac i ddod â iachâd i’r byd.

Newid yn yr hinsawdd

Mae God’s Earth yn gweiddi am ein gofal ac os na fyddwn yn cyfyngu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar frys a dinistrio rhywogaethau byddwn yn anffurfio ein cartref cyffredin yn barhaol gan atal biliynau o blant Duw rhag ffynnu. Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod bod stiwardiaeth gyfrifol y greadigaeth yn rhan annatod o ddisgyblaeth Gristnogol.

Y Gymraeg

Mae’r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach yn yr Eglwys yng Nghymru wrth i Gristnogion ledled y wlad addoli, tystio a gwasanaethu Duw a’u cymunedau. Ein gobaith ydy parhau i ddatblygu ein darpariaeth fel y bydd ein cenhadaeth a’n gweinidogaeth yn y Gymraeg yn cryfhau ac yn cael cyfleoedd newydd i ffynnu.

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i ddiogelu fel rhan annatod o'i bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth

Ewch i'n tudalen diogelu
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn rhan o'r Cymundeb Anglicanaidd

Ymweliad: www.anglicancommunion.org

Gweddi'r wythnos

Colect 190 Hollalluog Dad, sydd o’th wir adnabod yn fywyd tragwyddol: dysg i ni adnabod dy Fab Iesu Grist fel y ff ordd, y gwirionedd a’r bywyd, fel y gallwn ddilyn camau dy apostolion sanctaidd, Philip ac Iago, a cherdded yn ddiysgog yn y ffordd sy’n arwain i’th ogoniant trwy Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn trwy nerth yr Ysbryd a gyfodaist i fyw gyda thi, ei Dduw a’i Dad, yn oes oesoedd.
Philip ac Iago, Apostolion ~ Philip and James, Apostles

Colect yr wythnos

Colect 69 Hollalluog Dduw, a orchfygaist angau trwy dy uniganedig Fab ac a agoraist i ni borth y bywyd tragwyddol: bydded i’th ras ein rhagfl aenu a dyro ddeisyfi adau da yn ein meddyliau fel y gallwn, trwy dy gymorth parhaus di, eu dwyn i berffeithrwydd cyflawn; trwy Iesu Grist ein Harglwydd atgyfodedig, sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi, yn undod yr Ysbryd Glân, yn un Duw, yn awr ac am byth.
Gwelwch LITHIADUR yr wythnos hon